Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (101) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiynau 3 a 8 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dechreuodd yr eitem am 14:18
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 15:01
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar yr Adolygiad Canol-Blwyddyn o Gyllid y GIG, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar gynaliadwyedd cyllid y GIG yng Nghymru.
3. Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15:11
4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Atal Thrombo-emboledd Gwythiennol Ymhlith Cleifion Mewn Ysbytai
Dechreuodd yr eitem am 15:43
NDM5116 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16:22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5114 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Uned Gyflawni’r Prif Weinidog yn aneffeithiol, o ystyried methiant parhaus Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Yn galw ar y Prif Weinidog i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd yr Uned Gyflawni o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwyntiau newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith, ers sefydlu’r Uned Gyflawni:
a) bod nifer y cleifion sy’n cael eu trin o fewn 26 wythnos ac o fewn 36 wythnos wedi gostwng, yn ôl ffigurau mis Medi 2011 a mis Medi 2012 gan StatsCymru;
b) roedd nifer y myfyrwyr a gafodd 5 TGAU A*-C yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr;
c) bod diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc wedi codi 400%, yn ôl ffigurau mis Awst 2011 a mis Awst 2012 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol;
Yn gresynu ymhellach, er gwaethaf yr Uned Gyflawni, bod y Llywodraeth yn dal yn annhebygol o gyrraedd ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ymysg pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol erbyn 2012.
Gellir gweld yr ystadegau ar amseroedd aros drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121108sdr1942012en.pdf (Saesneg yn unig)
Gellir gweld yr ystadegau ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc drwy fynd i:
http://www.nomisweb.co.uk/reports/lmp/gor/2013265930/subreports/gor_ccadr_time_series/report.aspx (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan nad yw’r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, na derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
6. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17:23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5115 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith;
2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed;
3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
7. Dadl Fer - GOHIRIWYD
NDM5113 Ken Skates (De Clwyd):
Y Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd maethol Cymru
Pwynt o Drefn 1
Cododd Antoinette Sandbach Bwynt o Drefn ynghylch amseriad y cynnig i atal dros dro y Rheolau Sefydlog a’r cynigion i dderbyn y Rheoliadau. Gofynnodd sut yr oedd y Llywydd yn fodlon na fyddai caniatáu’r cynnig i atal dros dro y Rheolau Sefydlog yn amharu ar hawliau lleiafrifoedd yn y Cynulliad.
Cadarnhaodd y Llywydd ei bod yn fodlon bod y Cynnig mewn trefn gan fod wythnos o rybudd wedi ei roi i’r Cynulliad y bydd y Rheoliadau yn cael eu trafod.
Pwynt o Drefn 2
Cododd Simon Thomas Bwynt o drefn ynghylch y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod deddfwriaeth yn Saesneg yn unig.
Eglurodd y Llywydd fod y Rheolau Sefydlog yn caniatáu i hyn ddigwydd o dan amgylchiadau eithriadol.
Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 27.7 ac 12.20(i) er mwyn caniatau cynnal dadl ar y ddwy eitem nesaf o fusnes
Dechreuodd yr eitem am 18:20
NDM5117 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 er mwyn caniatáu i NDM5118 a NDM5119 gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 5 Rhagfyr 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
18 |
51 |
Gan nad oedd dwy ran o dair o’r Aelodau a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Pwynt o Drefn 3
Cododd y Prif Weinidog Bwynt o Drefn yn hysbysu’r Cynulliad ei fod yn ystyried ysgrifennu at y Llywydd yn galw am ailgynnull y Cynulliad.
Nododd y Llywydd y byddai’n ystyried unrhyw gais ffurfiol a ddaw i law, ond y byddai am gael gwybod pa amgylchiadau sydd wedi newid er mwyn cyfianwhau’r alwad i ailgynnull.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
8. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru)
Gan nad oedd dwy ran o dair o’r Aelodau a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro, ni chafodd eitemau 8 a 9 eu trafod.
9. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru)
Gan nad oedd dwy ran o dair o’r Aelodau a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro, ni chafodd eitemau 8 a 9 eu trafod.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18:57
Daeth y cyfarfod i ben am 19:00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2013